Ein nod yw rheoli achos eich anhwyder yn hytrach na trin eich symptomau yn unig - y ffactorau o adnabyddiaeth ac adfer sydd yn gyrru’r ailddigwyddiad sydd yn angenrheidiol i lwyddiant hir dymor.
I ddechrau byddwn yn sefydlu hanes eich problem, wedyn yn ymgymryd ag archwiliad clinigol trylwyr fydd yn arwain at ddeiagnosis a chynllun rheoli unigol penodol addas.
Ar ddiwedd y sesiwn gyntaf bydd gennych syniad eglur o’ch problem, ac wedi dechrau ar eich triniaeth a bydd gennych gynllun clir o’r hyn sydd angen ei gyflawni.Byddwch hefyd wedi cychwyn ar raglen ymarfer gartref benodol unigol fydd yn gymorth i gynnal y cynnydd a wnaed yn ystod y therapi.
Ar ddiwedd yr asesiad, os ydym yn penderfynu y byddai dull arall yn well, yna gallwn fod o gymorth i gysylltu â’r gweithwyr proffesiynol perthnasol er mwyn eich cyfeirio.
Mae’r defnydd o gyffwrdd a theimlo ac yn y pen draw’r defnydd o symudiad penodol wedi ei raddio yn cael ei gymhwyso, fydd yn adfer y symudiad ‘sylfaenol’. Mae hyn yn hyrwyddo symudiad o well ansawdd ac yn gwella effeitholrwydd yr ymarfer gartref. Yn y pen draw mae’n galluogi cynnydd a gwell symudiad a phatrymau ymarfer ar gyfer ymaddasiad, ac yn y diwedd mewn ffordd o fyw, chwaraeon,a thechneg mwy effeithiol.
Nid yw hwn yn ddull goddefol, ac i hwyluso’r canlyniadau gorau rydym angen cydweithrediad llawn y claf. Ni all hyn ond digwydd pan mae’r claf yn deall yr hyn sydd i ddisgwyl ohoni ef/hi.
Mae symudiad yn cael ei ail addysgu a’r gwaith cartref penodol yn cael ei roi i atgyfnerthu’r newidiadau sy’n angenrheidiol. Mae hunanreolaeth hyn yn cael ei addasu a’r newid yn ôl y lefel o gynnydd. Y gobaith yw drwy’r dull penodol sydd wedi ei raddio, y byddwch yn cyflawni ac yn cynnal y nodau yr oeddech wedi eu gosod ar y cychwyn.
(Cyfieithiad dod yn fuan..)
Back & neck pain
Sports injuries
Postural problems
Joint pain & arthritis
Post-surgery rehabilitation
Work-related injuries
Long-term pain conditions
Cyfeiriad: Ffisiotherapi Arfon, 42 Glanrafon, Bangor, Gwynedd LL57 1LH
Ffôn: 01248 360 999
Ebost: info@arfonphysio.co.uk