Ein Athroniaeth

Hands-on manual therapy
Personalised specific exercise
Movement retraining
Education & self-management
Lifestyle-based rehabilitation

Rydym yn hyrwyddo newid, yn annog prosesau iachâd naturiol y corff, gan ddefnyddio therapi llaw, addysg, ail addysgu symudiad a newidiadau mewn ffordd o fyw.

Am flynyddoedd lawer roedd Nikki yn chwilfrydig ynglŷn â’r gwahaniaeth mewn gwasanaeth i’r chwaraewr chwaraeon elitaidd â’r cyhoedd cyffredin. Fe drawodd yr anghysondeb hi fel un anghyfiawn. Mae hi bob amser wedi ymdrechu i gynnal yr un safon gofal a thrin pob unigolyn gyda’r lefel uchaf o ddiddordeb, parch, tosturi, empathi, a dealltwriaeth beth bynnag fo’r amgylchiadau personol.

  • Pethynas - mae’r berthynas broffesiynol therapiwtig yn allweddol ar gyfer unrhyw ganlyniad llwyddiannus. Mae Nikki bob amser yn ymdrechu i ddatblygu dull o gyfathrebu sy’n agored, dealladwy, a gonnest. Mae hi angen i chi deimlo’n gyfforddus a hyderus o fewn y clinig fel eich bod bob amser yn deall beth sy’n digwydd, beth sydd yn ofynnol ohonoch ac eich bod yn agored i gyfathrebu yn rhwydd.

  • Penodoldeb - mae cywirdeb y driniaeth, i’r manylyn lleiaf yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad y driniaeth. Mae’n bwysig i ddylanwadu cymaint â phosib o’r ‘gyrrwyr’ sy’n gwasanaethu i gynnal system gamweithredol. Bydd dull sydd yn seiliedig ar dystiolaeth yn sicrhau’r canlyniad gorau.

  • Unigoliaeth - does run ohonom yr un fath, rydym yn gwella ar raddfa wahanol, mae rhai ohonom yn well am wneud ein gwaith cartef nag eraill, a rhai yn ‘ei chael hi’ yn gynt nag eraill. Yn bwysig fe fydd gan bob un ohonom disgwyliadau a nodau gwahanol, ac mae’n rhaid archwilio rhain i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’r Ffisiotherapi.

Wedi gyrfa mor eang (yn cwmpasu Ffisio a Chwnsela) mae Nikki wedi datblygu sgiliau sydd wedi cael eu tiwnio yn iawn ar gyfer addasu y sesiwn ar gyfer eich anghenion, gan fynd yn ôl y cyflymdra sydd yn addas i chi.

Mae Nikki yn credu mewn ymyrraeth gynnar er mwyn annog triniaethau ataliol yn ogystal ag adweithiol. “Gorau po gynta…”.

Rydym yn defnyddio ein dwylo- ond nid yw hyn yn ddull goddefo l- rydym yn annog cyfranogiad a chyfrifoldeb llawn y claf, gan osgoi dibyniaeth ar therapi er mwyn cael eich rhyddhau yn gynt.

Yn bwysicach gyda eich dealltwriaeth parhaus, a thrwy eich cyfranogiad ac ymroddiad i’r strategaethau ataliol, fe fyddwch yn derbyn annibyniaeth oddi wrth therapi!!

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: Ffisiotherapi Arfon, 42 Glanrafon, Bangor, Gwynedd LL57 1LH

Ffôn: 01248 360 999

Ebost: info@arfonphysio.co.uk