Tystlythyrau

“Annwyl Nikki,

Diolch yn fawr. Fe fyddwch yn falch o wybod fy mod wedi gwella yn dda unwaith eto, ac yn mwynhau ymarfer corff caled i’r safon eithafol yr arferwn wthio fy hun. Dim mwy o boen chwaith yn ystod nac wedyn ychwaith wedi cerdded mynyddoedd.

Mae hyn i gyd oherwydd eich sgil proffesiynol wrth ymdrin â fy mhroblemau niferus o’r cefn i’r glun a’r benglin. Nid yn unig yr oeddech yn gallu defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth i unioni pethau, ond teimlwn hefyd bod eich sgiliau fel ‘cwnselydd’ hefyd yn llesol.

Diolch Nikki am eich arbenigedd, eich cwnsela, eich cyngor hiwmor a chyfeillgarwch.

Cymrwch bwyll, Cofion gorau”

Mr R, Beaumaris




“Teimlais bod yn rhaid i mi ysgrifennu i ddiolch yn fawr i chi am eich arweiniad da a’r therapi ar fy mhenglin. Gwelais yr Ymgynghorydd Dydd Iau ac yr oedd yn falch iawn a dywedodd wrtha’i am fynd i fwynhau fy hun. Parhau gyda’r ymarferion ac y mae am fy ngweld eto mewn blwyddyn. Mi fydda’i yn dychwelyd os fydda’i angen eich cymorth eto gan eich bod wedi bod yn ardderchog.

Mrs S, Colwyn Bay




“Nifer o fisoedd yn ôl roeddwn i mewn cymaint o boen gyda’m cefn, roedd yn rhaid gwneud rhywbeth, felly fe wnes apwyntiad gyda’r ceiropractydd lleol, ond roedd hyn yn wastraff llwyr o amser ac arian. Roeddwn yn dal mewn poen, yn cysgu ar y llawr ac yn cymryd tabledi lladd poen dydd a nos. Fe wnaeth pennaeth fy ngwraig yn y gwaith argymell Nikki.

Yn dilyn fy nhriniaeth/profiad diwethaf roeddwn yn amheus ond yn fuan teimlais yn hyderus y byddai Nikki yn gallu fy helpu, er iddi datgan na fyddai hyn yn adferiad sydyn, ac y byddai’n rhaid i mi weithio ochr yn ochr gyda hi, h.y gwneud yr ymarferion a osodwyd ganddi yn wythnosol. Rwyf yn falch o gael dweud fy mod yn awr yn ddi-boen, yn hapus ac yn gallu mynd i’m gwaith ac o amgylch y lle, yn gwneud yr hyn yr wyf yn dymuno ei wneud mewn bywyd, ac mae’r diolch i Nikki.

Rwyf yn argymell Ffisiotherapi Arfon, ac os ydych mewn poen fel yr oeddwn i, gwnewch apwyntiad, does gennych ddim i’w golli, ond llawer i’w ennill, mae bywyd yn rhy fyr i fod mewn poen a theimlo’n ddiflas.

Mr C, Criccieth




“Rydw i bob amser yn cael croeso mawr yn y clinic sydd ag ymdeimlad teuluol i’r lle. Roeddwn wedi bod at amryw o ffisios cyn dod i Ffisiotherapi Arfon. Ers i mi ddod i Ffisiotherapi Arfon mae fy niweidiau wedi gwella yn well na yr hyn a ddywedwyd wrthyf fyddai’n bosib. Rydw i mwy neu lai yn gallu gwneud y gweithgareddau o’m dewis.

Diolch i bawb yn Ffisiotherapi Arfon am bob peth. Byddwn yn eu hargymell i bawb.

Jenny, Betws Y Coed




“Ers fy ymweliad atoch ac yn dilyn eich cyngor gwybodus a thriniaeth drylwyr, gyda bysedd wedi eu croesi mae popeth wedi bod yn iawn. Daw eich practis â chymeradwyaeth uchel. Diolch unwaith eto am eich triniaeth arbenigol.

Anna, Abersoch




“Mae Ffisiotherapi Arfon yn sefydliad croesawgar iawn.Wedi blynyddoedd o boen cefn a nifer o ymweliadau at therapyddion amrywiol gyda dim esboniad dros fy symptomau nac ychwaith ryddhad o boen, fe gyfeiriodd fy meddyg teulu fi at Nikki yn Ffisiotherapi Arfon oedd â gair da iawn amdani. Gydag agwedd gyfeillgar ond proffesiynol, fe esboniodd Nikki y ffactorau a allai fod yn gyfrifol dros fy mhoen cefn, fe roddodd driniaeth effeithiol i mi, a hefyd awgrymu y dylwn i fynd am archwiliad pellach. O ganlyniad i’r sesiynau ffisiotherapi, mae symptomau niweidus y poen cefn dan reolaeth, ac rydw i yn gallu gweithio yn llawn amser.’

Gyda phrofiad a gwybodaeth Nikki, mae hi wedi gallu cynnig dull eclectig o driniaeth i mi sydd wedi fy ngalluogi i fyw fy mywyd heb gyfyngiadau.

Bethan, Anglesey




Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: Ffisiotherapi Arfon, 42 Glanrafon, Bangor, Gwynedd LL57 1LH

Ffôn: 01248 360 999

Ebost: info@arfonphysio.co.uk