Dechreuodd Nikki ei thaith fel Ffisiotherapydd Siartedig yn Ysbyty Frenhinol Orthopedig yn Birmingham ym 1992. Wedi iddi gwblhau y Cylchdroadau syflaenol a’r Cylchdroad II Uwch, fe ymunodd â chlinig preifat yng Nghorc, Iwerddon. Â’i bryd ar gydgrynhoi ei phrofiad yno, penderfynodd fynd i astudio ym mhellach yn llawn amser am flwyddyn i Perth, Gorllewin Awstralia lle ym 1996 bu iddi gwblhau Diploma Ôl-raddedig mewn Therapi Triniaethol, ac felly arbenigo mewn problemau cyhyrysgerbydol yn fuan iawn yn ei gyrfa.
Gan ddychwelyd i’r Iwerddon, fe agorodd ei phractis preifat ei hun. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n rhan o broses ‘hela pennau’ fel petai, a cafodd ei chyflogi gan Undeb Rygbi Pêl-droed Gwyddelig fel Ffisiotherapydd i Munster RFC a’r Timau Talieithau Cyfun (Irish B). O ganlyniad i’w hymroddiad a safon ei gwaith, cafodd gais gan y Cyngor Chwaraeon Gwyddelig i’w helpu i gyflawni prosesau sgrinio ar gyfer athletwyr Olympaidd, elitaidd a phroffesiynol ar gyfer gwahanol disgyblaethau.
Daeth cyfle iddi werthu ei phractis yn Iwerddon a’i galluogi i ddychwelyd i Ogledd Cymru o lle mae’n frodor. Wedi cyfnod o weithio i GIG ac fel Arbenigydd Clinigol Asgwrn Cefn yn Ysbyty Murrayfield, fe sefydlodd bractis preifat bach ym Mangor Uchaf. Dros y blynyddoedd mae Nikki wedi ail fuddsoddi yn y busnes, a bellach wedi bod ar y safle presennol yn Axis Therapy Ltd ers deng mlynedd.
Mae Axis yn benllanw o ddeng mlynedd o waith sydd yn cynnig llety o safon i fusnesau therapi proffesiynol bach. Mae hyn wedi cynnig platfform fforddiadwy sydd wedi galluogi datblygiad i amryw o fusnesau newydd i’r ardal.
Yn awyddus i gynnig ei sgiliau, bu i Nikki chwarae rôl arwyddocaol, ar lefel ymgynghorol ac ymarferol yn natblygiad a ffurfiad cynnar RGC (Rygbi Gogledd Cymru). Bu i’r tȋm ennill gwobr ‘Magazine’s Team of the year’, yn seiliedig yn bennaf ar weledigaeth gofal iechyd a gafodd ei hybu gan y tȋm.
Fel y datblygodd practis a sgil Nikki dros y blynyddoedd, fe arbenigodd mewn trin poen asgwrn cefn, problemau cyhyrysgerbydol, ac anafiadau chwaraeon, llawer ohonynt yn gronig, hirsefydlog a chymhleth. Gan gofleidio’r dull bioseicogymdeithasol fe ysgogodd hyn chwilfrydedd cynyddol mewn cymlhethdod problemau cronig, ac wedi hynny dechreuodd ymchwill daith arall, ac ym 2010 fe gymhwysodd Nikki fel Cwnselydd.
Mae Nikki bellach yn cefnogi ei merch gan ei bod ar y Garfan Datblygu 470. Yn anffodus, mae cefnogi'r ymgyrch hon wedi golygu nad oes amser i geffylau, felly mae cadw gwenyn bellach wedi llenwi bwlch llai.
Mae Nikki yn cynnig gwasanaeth dwyieithog.
Viv yw gweinyddwr y swyddfa, ac yn aml, hi fydd eich pwynt cyswllt cyntaf. Mae hi'n ymfalchïo mewn gwneud y profiad mor llyfn a chroesawgar â phosibl, O drefnu apwyntiadau ac ateb cwestiynau, mae hi bob amser yn hapus i helpu a sicrhau eich bod chi'n teimlo eich bod yn cael eich gefnogi trwy'r broses o wneud a mynychu eich apwyntiadau.
Cyfeiriad: Ffisiotherapi Arfon, 42 Glanrafon, Bangor, Gwynedd LL57 1LH
Ffôn: 01248 360 999
Ebost: info@arfonphysio.co.uk