Mae'r clinig mewn lle canolog ac mae parcio 'talu ac arddangos' digonol yn ymyl. (Byddwch yn ymwybodol bod ein wardeiniad traffig lleol yn effeithiol iawn wrth eu gwaith).

Ffisiotherapi Arfon Physiotherapy, 42 Glanrafon Terrace, Bangor, Gwynedd LL57 1LH

Ffôn: 01248 360 999                        E-bost: nikki@arfonphysiotherapy.co.uk

Dyma ein oriau agor ar hyn o bryd:

Dydd Llun            8.30 yb - 7.30 yh

Dydd Mawrth       8.30 yb - 2.00 yh

Dydd Mercher      8.30 yb - 2.00 yh

Dydd Iau              8.30 yb - 7.30 yh

Dydd Gwener      8.30 yb -  2.00 yh

 

Rydym ar gael i ateb eich galwadau ffôn yn ystod yr amseroedd uchod, fordd bynnag pe byddech yn cael eich cyfeirio i'r peiriant ateb, gadewch eich enw a'ch cyfeiriad os gwelwch yn dda, ac fe wnawn roi galwad i chi cyn gynted â bo modd.

Oriaueraillar gael ar gais.Mae croeso i chiofyn.

Petai chi angen unrhyw wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â ni ac fe wnawn ein gorau i gael ateb i chi cyn gynted â bo modd gwneud hynny.

Cyfarwyddiadau i'r clinig trwy Ffordd Caernarfon, Bangor (Oddi ar y A5 wrth Tesco)

Dewch i Fangor trwy Ffordd Caernarfon, gan ddilyn y ffordd i fyny a thuag at yr orsaf gan gadw i'r lôn dde. Unwaith y byddwch wedi troi i'r dde yn y goleuadau traffig ger y orsaf, symudwch i'r ochr chwith, fel na fyddwch yn wynebu set arall o oleuadau traffig. Mae'r ffordd yma yn arwain at leoliad Theatr Gwynedd gynt, ac wrth y gylchfan fechan cymrwch yr ail allanfa, fydd yn eich harwain i lawr Ffordd Sackville.

Ar ddiwedd Ffordd Sackville (cyn i'r ffordd droi i'r dde) mae maes parcio, yna mae Ffisiotherapi Arfon wedi i chi basio'r tri tý teras ar ôl tafarn Glanrafon, trwy'r adwy ac fe welwch yr adeilad yn syth o'ch blaen.

 

Cyfarwyddiadau i'r clinig trwy Bangor Uchaf (Ffordd Caergybi)

Dilynwch y ffordd cyn belled â'r osaf, trowch i'r chwith, ac arhoswch ar y lôn chwith nes i chi gyrraedd y gylchfan fechan. Wrth y gylchfan fechan cymrwch yr ail allanfa, a byddwch ar Ffordd Sackville.

Ar ddiwedd Ffordd Sackville (cyn i'r ffordd droi i'r dde) mae maes parcio ar y chwith (ar ôl tafarn Glanrafon - sydd wedi ei beintio'n felyn). Os ydych yn parcio yn y maes parcio, yna mae Ffisiotherapi Arfon wedi i chi basio'r tri tÿ teras ar ôl tafarn Glanrafon, trwy'r adwy ac fe welwch yr adeilad yn syth o'ch blaen.

 

Cyfarwyddiadau ar droed, o ganol y dref (Cloc) ymlaen am y Brifysgol

Gan ddechrau yng nghanol y dref, yn cerdded o gyfeiriad y cloc tuag at y Brifysgol fe basiwch y Gadeirlan ar y dde. Dilynwch y palmant yr holl fordd tuag at dafarn Glanrafon (wedi ei beintio'n felyn). Mae Ffisiotherapi Arfon wedi ei leoli o fewn y teras gyda'r maes parcio dros y ffordd.

 

Cyfarwyddiadau i'r clinig o'r A55

Gadewch yr A55 ar gyffordd 10 tuag at canol dinas Bangor. Drwy Llandegai, dilynwch ffordd, ac wrth Dickies Boatyard ewch ar hyd y ffordd i'r chwith. Ewch heibio Aldi, ar hyd y gylchfan fechan ac aros ar y lôn chwith nes i chi gyrraedd yr ail gylchfan fechan, yna cymrwch yr allanfa gyntaf i'r chwith, ar hyd Ffordd Sackville. Ar diwedd Ffordd Sackville (cyn i'r ffordd droi i'r dde) mae maes parcio ar y chwith (ar ôl tafarn Glanrafon - sydd wedi ei beintio'n felyn). Os ydych yn parcio yn y maes parcio, yna mae Ffisiotherapi Arfon wedi i chi basio'r tÿ teras ar ôl tafarn Glanrafon, trwy'r adwy ac fe welwch yr adeilad yn syth o'ch blaen.

 

Ble i ddod o hyd i ni (map)

Where to find us