Fe welwch isod rai cwestiynau a ofynnir yn aml.

 

Pa mor hir yw'r apwyntiadau?

Mae asesiad trwyadl cyntaf yn cymryd hyd ar awr, ac unrhyw driniaeth arferol dilynol hyd at 30 munud.

Ydw'i angen atgyfeiriad?

Na dim o gwybl, nid oes angen atgyfeiriad meddyg ar gyfer ffisiotherapi, fodd bynnag mae'n bwysig gweithio'n agos gyda'ch meddyg teulu mewn rhai amgylchiadau.

Beth ydi'r polisi cansladau?

Mae angen 24 awr o rybudd ar gyfer cansladau neu ddiffyg presenoldeb o holl apwyntiadau, fel arall bydd ffi diffyg presenoldeb i'w dalu.

Pa bryd bydd y clinig ar agor?

Dyma ein oriau agor ar hyn o bryd:

Dydd Llun                  8.30 yb - 7.30 yh

Dydd Mawrth             8.30 yb - 2.00 yh

Dydd Mercher            8.30 yb - 2.00 yh

Dydd Iau                    8.30 yb - 7.30 yh

Dydd Gwener             8.30 yb - 2.00 yh

Rydym ar gael i ateb eich galwadau ffôn yn ystod yr amseroedd uchod, fodd bynnag pe byddech yn cael eich cyfeirio i'r peiriant ateb, gadewch eich enw a'ch cyfeiriad os gwelwch yn dda, ac fe wnawn roi galwad i chi cyn gynted â bo modd.

Oriaueraillar gael ar gais. Mae croeso i chiofyn.

Beth ddyliwm i ei wisgo ar gyfer y sesiwn?

Byddai'n synida da i chi wisgo dillad llac a chyfforddus fel dillad chwaraeon, fodd bynnag, gan ddibynnu ar y broblem, efallai y bydd angen i chi dynnu rhai o'ch dillad.