Nikki Davies MCSP MACP MHPC
Bu i Nikki gymhwyso fel Ffisiotherapydd Siartredig yn Ysbyty Frenhinol Orthopedig yn Birmingham ym 1992. Wedi iddi gwbihau ei 'Senior II rotation', dechreuodd weithio mewn practis preifat mawr yn Cork, Iwerddon. Bu i'r profiad a ennillodd ei hannog i astudio'n bellach yn llawn amser am flwyddyn yn Perth, Gorllewin Awstralia, lle y bu iddi gwblhau Diploma Ôl-radd mewn Therapi Llawdriniad.
Ar ôl dychwelyd nôl i Iwerddon fe agorodd ei phractis preifat ei hun, ac yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn cael ei chyflogi gan yr Undeb Rygbi Pêl-droed Iwerddon fel Ffisiotherapydd i Munster RFC a Thimau Taleithiau Cyfunol Iwerddon (Irish B). Roedd hi hefyd yn gyfrifol am sgrinio athletwyr Olympaidd, yr elît a'r proffesiynol, o amrywiol ddisgyblaethau gwahanol, i Gyngor Chwaraeon Iwerddon.
Wedi iddi achub ar y cyfle i werthu ei phractis yn Iwerddon, fe gafodd gyfle i ddychwelyd yn ôl i Gymru lle y bu iddi sefydlu practis bychan ym Mangor Uchaf. Oherwydd i'r practis ehangu roedd angen mwy o le, ac felly daeth i feddiant practis newydd.
Hyd yn ddiweddar bu Nikki â chysylltiad gweithredol, a chymhwyster i gynghori a chyfrannu'n ymarferol i baratoi tîm Rygbi Gogledd Cymru tuag at eu statws lled-broffesiynol. Ar ôl gweithio i Gyngor Chwaraeon Iwerddon gyda'u rhaglen sgrinio ar gyfer athletwyr elît, mae ganddi ddiddordeb penodol mewn cymhwyso'r strategaethau ataliol a defnyddio yr un egwyddorion o hybu cyfrifoldeb ac addysg i'w sgiliau therapi dwylo ardderchog, i annog cyfraniad y claf, a'r dealltwriaeth o leddfu a rheoli eu problemau.
Mae Nikki yn arbenigo mewn trin poen cefn, problemau niwro-gynhyrysgerbydol, ac anafiadau chwaraeon. Gan fod ganddi ddiddordeb arbennig mewn problemau poen cronig, fe arweiniodd hyn at ymdrin â'r dull cyfannol, ac o ganlyniad yn ddiweddar fe gwblhaodd ei hyfforddiant fel Cynghorydd gyda'i gobaith o gwblhau gradd MA gan astudio'r rhyngweithiad rhwng y corff a'r meddwl - gan fod hyn o bwysigrwydd mawr yn y driniaeth o drawma a phoen cronig.
Mae Nikki yn credu y dylai'r trosglwyddiad o wasanaeth i'r elît mewn chwaraeon a'r cyhoedd fod o safon cyffelyb a dyma yw athroniaeth ei Chlinig.
Mae hi'n credu'n gryf y dylai triniaeth gael ei ganfod yn fuan, a lle bo'n bosib yn annog ataliad yn ogystal â thriniaethau adweithiol.
Mae Nikki yn darparu gwasanaeth dwyieithog.
Morag Bowie MCSP MHPC
Bu i Morag gymhwyso yn Ysbyty Frenhinol Manceinion ym 1980. Bu'n gweithio ar y cychwyn o fewn y GIC yn Ysbyty Derby, ac o fewn y sector breifat ers 1982. Fel Uwch Ffisiotherapydd fe symudodd Morag i Lundain i weithio mewn ysbyty breifat lle y sefydlodd glinig anafiadau chwaraeon, ac am gyfnod byr bu'n ymwneud â Chlwb Rygbi'r Wasps.
Daeth cyfle iddi weithio yn Athen, Groeg am dair mlynedd yn gweithio o gartref, ond yn ddiweddarach mewn campfa Nawtilws, lle y cafodd brofiad o gyfundrefnau codi pwysau.
Wedi iddi ddychwelyd i'r DU, cafodd Morag ei chyflogi gan Gwmni Ffitrwydd annibynnol dan gytundeb prif gorfforaethau busnes oedd yn darparu cyfleusterau ffitrwydd ar y safle, gydag asesiadau unigol a rhaglenni hyfforddi ar gyfer y staff, yn ogystal â gwasanaethau ffisiotherapi ar y safle.
Yn ystod y cyfnod hwn bu i Morag gymhwyso fel Hyfforddwraig Ffitrwydd. Oherwydd ei bod yng Nghyffiniau'r afon Tafwys, daeth Morag mewn cysylltiad â Chlwb Rhwyfo Marlow, a thrwy hyn dechreuodd weithio gyda Thîm Rhwyfo' Deyrnas Unedig, gan deithio i Regatas Cenedlaethol gan gynnig cefnogaeth anaf dwys, ond hefyd ddatblygiad i raglenni ataliol anafiadau gyda ffisiotherapyddion eraill. Aweiniodd y proffil hwn at ei phenodiad fel Uwch Ffisiotherapydd yn y Ganolfan Feddygol Olympaidd Brydeinig o 1994 i 2000, ble roedd cyfle i athletwyr lefel elît gael mynediad i Ffisiotherapi, Meddygon Chwaraeon, a Phrofi Ffisiolegol. Bu'n Ffisiotherapydd Tim yng Ngemau Sydney ac Atlanta.
Yn ystod y cyfnod hwn fe gymhwysodd fel Tylinwraig Therapi Chwaraeon ac ymgymryd â hyfforddi'n drwyddedig i drin problemau cyhyrysgerbydol gyda Nodwydd Iachau.
Oherwydd cyfrifoldebau teulu ifanc, daeth y teithio rhyngwladol i ben, a dychwelodd Morag yn ôl i bractis preifat.
Mae ei phrofiad helaeth mewn systemau cyhyrysgerbydol o athletwyr elît, i boblogaeth nad ydynt yn ymarfer, wedi rhoi dyfnder o ddealltwriaeth iddi, a chred mewn rheolaeth gyfannol.
Yn aml mae anaf dwys yn ganlyniad terfynol o anghydbwysedd cronig, ac mae'r gred hon yn cydweddu gydag ethos clinig Ffisiotherapi Arfon.
Mae Morag yn edrych ymlaen yn fawr iawn i ychwanegu at wasanaeth y mae Nikki a'r staff yn ei ddarparu.