Mae Ffisiotherapi Arfon yn ganolfan o ragoriaeth gyda'i lleoliad ym Mangor (Gogledd Cymru) sy'n arbenigo mewn triniaeth gyflawn, ac adferiad o anhwylderau cyhyrysgerbydol.

 

 

Mae gan Clinig Bangor (Gogledd Cymru) ddwy Ffisiotherapydd Siartedig.

Mae Nikki Davies MCSP MACP MHPC yn arbenigo mewn trin poen y cefn (dwys a chronig) problemau niwro-gyhyrysgerbydol ac anafiadau chwaraeon. Mae hi wedi gweithio fel Ffisiotherapydd gyda Thîm Rygbi Munster yn ystod eu hymgyrch Ewropeaidd lwyddiannus, Taleithiau Cyfunol Iwerddon, a Chyngor Chwaraeon Iwerddon ac yn meddu ar flynyddoedd helaeth o brofiad mewn practis preifat. (Am fwy o wybodaeth ewch i'r dudalen AMDANOM NI).

Mae Morag Bowie MCSP MHPC hefyd yn arbenigo mewn trin anafiadau chwaraeon a phroblemau niwro-gyhyrysgerbydol. Mae Morag yn gyn Brif Ffisiotherapydd i'r Ganolfan Feddygol Olympiadd Brydeinig, Ffisiotherapydd Tîm i'r Sgwad Rhwyfo'r DU Hyn, ac yn Brif Ffisiotherapydd i'r Tîm Iau. Bu iddi fynychu Gemau Olympaidd Atlanta a Sydney fel Ffisiotherapydd Tîm. (Am fwy of wybodaeth ewch i'r dudalen AMDANOM NI).

 


 

Mae athroniaeth sylfaenol y clinig wedi ei seilio ar y gred fod angen i ni weithio gyda phrosesau gwella naturiol y corff, sy'n gymorth i hyrwyddo newid sydd yn y pen draw yn ganlyniad i gynnydd hir dymor.

Ein nôd yw i reoli achos eich anhwylder yn hytrach na thrin eich symptomau yn unig. Yn gyntaf byddwn yn darganfod hanes eich problem, yna ymgymryd ag archwiliad clinigol trylwyr fydd yn arwain at ddeiagnosis a chynllun rheoli unigol penodol addas.

Ar ddiwedd eich sesiwn gyntaf bydd gennych syniad clir o beth yw'r broblem, cwrs y driniaeth sydd i'w ymgymryd, a bydd eich triniaeth eisoes wedi cychwyn.

 

Beth yw Ffisiotherapi?

Ffisiotherapi yw dull gyfunol o drin meinwe meddal, symudiad llacio niwral a chymal, llawdriniad ac ymarfer. Bydd y dull benodol wedi ei theilwrio i gwrdd â'r broses o adferiad, ac yn gysylltiedig â'r claf trwy gydol yr amser.

 

Pam Ffisiotherapi?

Mae Ffisiotherapi yn unigryw yn yr ystyr ei fod yn asesiad gyfan o dair system bwysig o fewn problemau niwro-gyhyrysgerbydol: y cymalau, cyhyrau a'r nerfau. Bydd yr asesiad wedyn yn cael ei gyfuno i broses driniaethol integral, tra bo ein gôl tymor hir yn parhau i atal y siawns o ail ddigwyddiad drwy addysg, dealltwriaeth a chyfranogiad y claf. Nid yw'r dull yn un goddefol, a byddwch yn cymryd rhan weithredol yn eich rôl o adferiad o'r sesiwn gyntaf, ac yn y modd yma yn dysgu sut i reoli'r broblem sy'n osgoi achosion o ddibyniaeth ar driniaeth.

 

Gwasanaethau sydd ar gael

·        Therapi â dwylo

·        Ymarfer a chyfarwyddiadau'r gym

·        Sgrinio cyhyrysgerbydol

·         Asesu a rheoli problemau poen cronig

·         Ffisiotherapi chwaraeon

·        Nodwydd Iachau

·        Tyliniad

Os nad yw'r gwasanaeth wedi ei restru, gofynnwch os gwelwch yn dda.